TMGCRB

Cyflwyniad Yr Asiantaeth Safonau Gyrru

Mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) bellach yn mynnu bod Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy (ADI) a Darpar Hyfforddwyr Gyrru (PDI) yn cael gwiriadau gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB). Cyflwynwyd y gwiriadau hyn er mwyn sicrhau cywirdeb y Gofrestr ADI trwy roi rhagor o wybodaeth i'r Cofrestrydd i benderfynu a yw rhywun yn berson "addas a phriodol" ai peidio. Bydd hyn hefyd yn rhoi sicrwydd i aelodau'r cyhoedd ynglŷn â'u diogelwch personol wrth ddysgu gyrru.

Mae TMG CRB wedi eu penodi gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) i brosesu Datgeliadau ar gyfer Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy (ADI). Ni fydd a wnelo TMG CRB ddim o gwbl ag asesu a yw'r ADI yn "addas a phriodol" – mater i'r Cofrestrydd yn unig yw'r penderfyniad hwnnw.

TMG CRB yw'r Corff Mantell CRB mwyaf yn y wlad. Beth allwn ni ei gynnig i chi?

  • Pecyn ymgeisydd ADI pwrpasol i'ch arwain trwy'r broses
  • Cymorth pan fydd ei angen arnoch, gan dîm profiadol, gwybodus a chyfeillgar